
OUR ADVISORY PANEL

Parchedig / Reverend Ifan Rhisiart Roberts
A retired minister who served in four Presbyterian Church of Wales’ pastorates in various parts of Wales. He also served as General Secretary of the Presbyterian Church of Wales for seven years. He is currently Chair of the CYNNAL Advisory Panel. Gweinidog wedi ymddeol gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Gwasanaethodd mewn pedair gofalaeth mewn gwahanol rannau o Gymru a bu hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru am saith mlynedd. Ef yw Cadeirydd Panel Ymgynghorol CYNNAL.

Rheinallt Armon Thomas, JP, BA, M.Ed
Born in Dyffryn Ceiriog, Primary Education in Aberfan and Secondary in Denbigh. Graduated at Bangor University and starting a teaching career in Bolton. Returned to Bangor to lecture at Y Coleg Normal and then in 1979 was appointed as the first Director of the Welsh National Centre for Religious Education at Bangor University until retirement in 2000. Married to Rowenna since 1963 with two children Elfyn and Nia and seven grandchildren. Has been active in community and church activities all his life - an elder since 1966 and served widely within the Presbyterian Church of Wales and is a past President of the Free Church Council of Wales. Has been active with the Welsh Sunday School Council since 1970 and the Religious Education Movement of Wales over the same period together with SACRES locally and nationally. He has served as a Community Councilor for 40 years, a Justice of the Peace for 25 years and was the founder of the local Urdd Branch and Diner’s Club. He was honored with the White robe by the Gorsedd of Wales; an Honorary Gee Medal and "Lifetime Contribution" Trophy from the Wales Association of Publishers. Ganwyd yn Nyffryn Ceiriog, Addysg Gynradd yn Aberfan ac Uwchradd yn Ninbych. Graddio ym Mhrifysgol Bangor a chychwyn ar yrfa dysgu yn Bolton. Dychwelyd i Fangor i ddarlithio yn Y Coleg Normal ac yna yn 1979 cael ei apwyntio fel Cyfarwyddwr cyntaf Canolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol yn y Brifysgol, Bangor hyd ymddeoliad yn 2000. Yn briod gyda Rowenna ers 1963 a dau o blant Elfyn a Nia a saith o wyrion. Wedi bod yn weithgar yn y byd a’r betws ar hyd ei oes – yn flaenor ers 1966 ac yn gweithredu yn eang o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac yn gyn Lywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru. Wedi bod yn weithgar gyda Cyngor Ysgolion Sul ers 1970 a’r Mudiad Addysg Grefyddol dros yr un cyfnod ynghyd â CYSAGau yn lleol a chenedlaethol. Wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Cymuned am 40 mlynedd, Ynad Heddwch am 25 mlynedd ac yn sylfaenydd Cangen yr Urdd a Chylch Cinio yn lleol. Wedi ei anrhydeddu â’r wisg Wen gan yr Orsedd; Medal Gee er anrhydedd a Thlws “Cyfraniad Oes” gan Gwlwm Cyhoeddwyr Cymru.

Parchedig / Reverend Canon Mark Owen SCP
Before ordination worked as a RMN and CPN. I had a keen interest in care of the elderly and dementia although had worked across the fields. I trained for ministry in the Church in Wales at St Micheals College Cardiff and was ordained Deacon and Priest by Bishop Dominic Walker Bishop of Monmouth at Newport Catedral. I served my curacy in Tredegar. I became incumbent of Rhymney and then moved to be Rector of Mynyddislwyn Rectorial Benefice before becoming Ministry Area Leader of Upper Islwyn and then Ministry Area Leader of Islwyn Ministry Area. I was also Area Dean of Bedwellty, Aea Dean of Pontypool and Area dean of the Gwent Valleys. I am currently also Canon of Newport Cathedral. I have served on the standing Committee DBF and clergy appointments panel for the Diocese and for many years also an elected member of the Governing Body of the Church in Wales. I have also been the South Wales rep for the RSCM. I serve on the Diocesan Deliverance Ministry Team. Cyn ei ordeinio gweithiodd fel RMN a CPN. Roedd gen i ddiddordeb brwd mewn gofal o'r henoed a dementia er fy mod wedi gweithio ar draws y maes. Hyfforddais ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru yng Ngholeg Sant Micheals, Caerdydd, a chefais fy ordeinio'n Ddiacon ac Offeiriad gan yr Esgob Dominic Walker, Esgob Trefynwy yng Nghasnewydd, Catedral. Fe wnes i wasanaethu fy curad yn Nhredegar. Deuthum yn ddeiliad Rhymni ac yna symudais i fod yn Rheithor Cymwynasol Reitholaeth Mynyddislwyn cyn dod yn Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Islwyn Uchaf ac yna'n Arweinydd Ardal Gweinidogaeth Ardal Gweinidogaeth Islwyn. Roeddwn hefyd yn Ddeon Ardal Bedwellty, Deon Aea Pont-y-pŵl a deon Ardal Cymoedd Gwent. Ar hyn o bryd rydw i hefyd yn Ganon Eglwys Gadeiriol CasnewyddRev Canon Mark Owen SCP Rwyf wedi gwasanaethu ar banel penodiadau Pwyllgor sefydlog DBF a chlerigwyr ar gyfer yr Esgobaeth ac ers blynyddoedd lawer hefyd yn aelod etholedig o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Rwyf hefyd wedi bod yn gynrychiolydd De Cymru ar gyfer yr RSCM. Rwy'n gwasanaethu ar Dîm Gweinidogaeth Rhyddhad yr Esgobaeth.

Sharon Jenkins
Sharon is currently training for the Priesthood at St Padarn’s Institute. She previously worked alongside Wynford Ellis Owen at Stafell Fyw Caerdydd / Living Room Cardiff as the Centre Administrator. She later took on the role of Office Administrator at East Cardiff Ministry Area, a group of Anglican churches in East Cardiff, before beginning her studies and formation training for ordination into the Church in Wales in 2024. Sharon has a heart for those on the margins and, over the years, has worked and volunteered with different charities supporting the vulnerable in society. She currently lives in Cardiff and attends her local Jazz club regularly (though not as often as she would like!) Ar hyn o bryd mae Sharon yn hyfforddi ar gyfer yr Offeiriadaeth yn Sefydliad Padarn Sant. Cyn hynny, bu'n gweithio ochr yn ochr â Wynford Ellis Owen yn Stafell Fyw Caerdydd fel Gweinyddydd y Ganolfan. Yn ddiweddarach, ymgymerodd â rôl Gweinyddydd Swyddfa yn East Cardiff Ministry Area, grŵp o eglwysi Anglicanaidd yn Nwyrain Caerdydd, cyn dechrau ei hastudiaethau a'i hyfforddiant ffurfio ar gyfer ordeinio i'r Eglwys yng Nghymru ym 2024. Mae gan Sharon galon dros y rhai ar yr ymylon ac, dros y blynyddoedd, mae wedi gweithio a gwirfoddoli gyda gwahanol elusennau sy'n cefnogi'r bregus mewn cymdeithas. Ar hyn o bryd mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn mynychu ei chlwb Jazz lleol yn rheolaidd (er nad mor aml ag y dymunai!)

Parchedig / Reverend Guto Llywelyn
I grew up in Felinfach, Ceredigion. After 25 years as a librarian, I became a minister of religion with the Welsh Union of Independents starting as a minister in the Whitland area in 2013. After twelve happy years in the Tâf Valley I have just received a calling to be a minister in the Gwendraeth Valley. Back in 2018 I had a period of anxiety and stress and received support from Wynford Ellis Owen and Cynnal. Since then I have been attending weekly Cynnal meetings in Carmarthen. I am married to Catrin and we live in Caerbryn near Ammanford. We have two children in their twenties, Mari and Dafydd. In my spare time I like to play chess and watch cricket and football. Cefais fy magu yn Felinfach, Sir Ceredigion. Ar ôl 25 mlynedd fel llyfrgellydd fe wnes newid gyrfa gan fynd yn weinidog yr efengyl gydag Undeb yr Annibynwyr Cymraeg gan ddechrau fel gweinidog yn ardal Hendy-gwyn yn 2013. Ar ôl deuddeg mlynedd hapus yng Nghwm Taf rwy newydd derbyn galwad i fod yn weinidog yng Nghwm Gwendraeth. Nôl yn 2018 fe gefais gyfnod o gôr-bryder a straen ac fe wnes dderbyn cymorth gan Wynford Ellis Owen a Cynnal. Ers hynny rwy wedi bod yn mynychu cyfarfodydd Cynnal yn wythnosol yng Nghaerfyrddin. Rwy’n briod gyda Catrin ac rydym yn byw yn Caerbryn ger Rhydaman. Mae gennym ddau o blant yn eu hugeiniau sef Mari a Dafydd. Yn fy amser sbâr rwy’n hoffi chwarae gwyddbwyll a gwylio criced a pêl-droed.

Parchedig / Reverend Christopher Prew
I'm originally from Denbigh. Following a degree in Theology at the Theological College in Aberystwyth I was ordained a Minister with the Presbyterian Church of Wales in the year 2000. I was Minister in Llangefni and the district for a decade and then moved to the pastorate of Porthmadog and the district in 2010. I am married to Rhian and we have three children. I was a member of the Cais management board and for a few years now a member of the Cynnal Advisory Panel and proud to be involved in this work. Rwyf yn un o Ddinbych yn wreiddiol. Yn dilyn cwrs gradd mewn Diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth cefais fy ordeinio yn Weinidog gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn y flwyddyn 2000. Bues yn Weinidog yn Llangefni a’r cylch am ddegawd ac yna symud i ofalaeth Porthmadog a’r cylch yn 2010. Rwyf yn briod â Rhian ac mae gennym dri o blant. Roeddwn yn aelod o fwrdd rheoli Cais ac ers ychydig o flynyddoedd bellach yn aelod o bwyllgor ymgynghorol Cynnal ac yn falch o fod yn gysylltiedig â’r gwaith hwn.

Wynford Ellis Owen
After a 40-year career in theatre and television as an actor, screenwriter and director – he was responsible for creating the iconic characters, Sir Wynff and Plwmsan and the comedy series that introduced us to the eccentric characters of Llanllewyn in, Porc Peis Bach to S4C – Wynford returned to college to qualify as a therapist in 2006. Shortly afterwards he was appointed chief executive of the Welsh Council on Alcohol and other Drugs. That led, in 2011, to the establishment of Living Room Cardiff, the renowned community centre that offers treatment, support and aftercare to people suffering from all sorts of addictions and other harmful behaviours, and their families. He retired from that post in 2017, and immediately became employed as a Specialist Counselling Consultant to CAIS, the parent company of the Living Room, in order to extend the service to other parts of Wales and look after certain initiatives such as Cynnal, the counselling service for clergy, ministers of religion, Christian workers, and their families; Beating the Odds, the service for excessive gamblers; and Enfys, the service for Doctors and other medical workers. He also leads all the Living Room retreats. When CAIS and two other charities merged to form Adferiad Recovery in 2021, he continued to look after Cynnal, Enfys – and, later, the Living Room, which had by then moved to another part of Cardiff. He believes that addiction is a spiritual illness that demands a spiritual solution. Looking forward to celebrating 33 years of sobriety this summer, he said, "In order to change the nature of things, I had to change not the events, but those thoughts that created the events in the first place." He is the author of three books to date, and numerous stage and radio plays, and a Churchill Trust Fellow. He also won the IWA and Western Mail Inspire Wales Award in 2014, and is a regular columnist for GOLWG, the weekly magazine. He is married to Meira, the heroine of his autobiography, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); father of Bethan and Rwth; and a very proud grandfather to Begw, Efa, Bobi, Jac and Jesi Iris. He now returns to the Council on Alcohol and Other Drugs, where he began his counselling career, to lead the Living Room, Cynnal, and the revolutionary, new Online initiative, A Place To Live, to extend these services, not just to the whole of Wales, Wedi gyrfa o 40 blynedd ym myd y theatr a theledu fel actor, sgwennwr a chyfarwyddwr – ef fu’n gyfrifol am greu’r cymeriadau eiconig, Syr Wynff a Plwmsan a’r cyfresi comedi gyflwynodd inni gymeriadau echreiddig Llanllewyn yn, Porc Peis Bach i S4C - dychwelodd Wynford i’r coleg i’w gymhwyso’n therapydd ym 2006. Yn fuan wedyn penodwyd ef yn brif weithredwr ar Gyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau eraill. Arweiniodd hynny, ym 2011, at sefydlu Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan gymuned enwog sy’n cynnig triniaeth, cefnogaeth ac ôl-ofal i bobl sy’n dioddef o bob math o ddibyniaethau ac ymddygiadau niweidiol eraill, a’u teuluoedd. Ymddeolodd o’r swydd honno ym 2017, a chael ei gyflogi’n syth fel Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol i CAIS, rhiant gwmni’r Stafell Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaeth i rannau eraill o Gymru a gofalu am rai mentrau penodol fel Cynnal, y gwasanaeth cwnsela i glerigwyr, gweinidogion yr efengyl, gweithwyr Cristnogol, a’u teuluoedd; Curo’r Bwci, y gwasanaeth i gamblwyr eithafol; ac Enfys, y gwasanaeth cenedlaethol i Feddygon a gweithwyr meddygol eraill. Ef hefyd sy’n arwain holl enciliadau’r Stafell Fyw. Pan unodd CAIS a dwy elusen arall i ffurio, Adferiad Recovery, ym 2021, parhaodd i ofalu am Cynnal, Enfys – ac, yn ddiweddarach, y Stafell Fyw, oedd wedi symud erbyn hynny i ran arall o Gaerdydd. Mae’n credu mai salwch ysbrydol yw dibyniaeth sy’n mynnu datrysiad ysbrydol. Wrth edrych ymlaen at ddathlu 33 mlynedd o sobrwydd yr haf hwn, dywedodd, “Er mwyn newid natur pethau, bu raid imi newid nid y digwyddiadau, ond y meddyliau rheini a greodd y digwyddiadau yn y lle cyntaf.” Mae’n awdur ar dri llyfr hyd yma, a nifer o ddramau llwyfan a radio, ac yn Gymrawd Ymddiriedolaeth Churchill. Ef hefyd ennillodd Wobr Ysbrydoli Cymru’r IWA a’r Western Mail ym 2014, ac mae’n golofnydd rheolaidd i GOLWG, y cylchgrawn wythnosol. Mae’n briod â Meira, arwres ei hunangofiant, Raslas bach a mawr! (Gomer, 2004); yn dad i Bethan a Rwth; ac yn daid balch iawn i Begw, Efa, Bobi, Jac a Jesi Iris. Mae dychweld yn awr at y Cyngor ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, lle dechreuodd ei yrfa gwnsela, i arwain y Stafell Fyw, Cynnal, a’r fenter Ar-lein chwyldroadol, newydd, Lle I Fyw, er mwyn ymestyn y gwasanaethau hyn, nid yn unig i Gymru gyfan, ond i’r byd.